P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU, Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor, 30.04.19


Yn gyntaf, diolch o galon i chi am eich am eich holl waith gyda’r mater hwn. Mae hi wedi bod yn galonogol i weld yr angrhedinedd yn ymateb sawl Aelod Cynulliad wrth ddeall beth sydd wedi digwydd gyda’r achos hwn. Fodd bynnag, mewn un cyfarfod ac aeth y drafodaeth i gyfeiriad diffyg adnoddau Cymraeg, sydd yn fater o bryder a phwysigrwydd wrthgwrs, ond diffyg argaeledd cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yw’r broblem yn yr achos hwn, nid adnoddau.

 

Rwyf wedi atodi copi o’r daflen y defnyddiais i godi ymwybyddiaeth o’r mater, gan ei bod yn rhoi amlinelliad hwylus o beth ddigwyddodd yn ôl yn 2015, pan benderfynodd Cymwysterau Cymru adael i Fyrddau Arholi Saesneg gynnig eu cyrsiau yng Nghymru heb roi pwysau arnynt i’w cynnig nhw drwy’r Gymraeg. Roedd gwneud hyn yn 2015, yn angrhediniol i ni sy’n gweld Cymru fel gwlad dwyieithog fodern, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod dros 600 o bobl wedi arwyddo’r ddeiseb, ac ymateb y gwleidyddion a Chomisynydd y Gymraeg.

 

Mae’r penderfyniad hwn wedi cael effaith andwyol ar fy ngyrfa. Dim ond cwrs lefel A Seicoleg sydd yn Ysgol Morgan Llwyd bellach, ac nid oes cwrs TGAU. Nid wyf bellach yn Bennaeth Pwnc swyddogol, a fydd yn arwain at ostyngiad cyflog. Mae hyn wrthgwrs yn destun siom personol wedi i mi adeiladu’r adran o’r newydd yn 2009, gyda dros gant o blant yn astudio’r pwnc ar lefel TGAU yn unig ar un adeg. Yn ogystal â bod yn siom i mi, mae o wedi siomi nifer o ddisgyblion, yn enwedig rhai efo brawd neu chwaer hŷn oedd wedi astudio’r pwnc, ond bu’n rhaid i mi egluro nad ydy’r cwrs TGAU ar gael drwy’r Gymraeg, er ei fod ar gael mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

 

Yn ei lythyr diweddar, mae Philip Blaker yn nodi ei hun bod o leiaf saith ysgol yng Nghymru mewn sefyllfa debyg. Niferoedd cymharol fach efallai yn nghyd-destun ariannol Cynllun Busnes Bwrdd Arholi, ond golyga hyn bod cannoedd o blant Cymru yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i astudio’r pwnc cyfoes, gwyddonol hwn, gyda chysylltiad cryf gyda iechyd meddwl, oherwydd eu bod yn dilyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.  

 

Mae o hefyd yn son am ymdrechion C.C. i geisio arbed y sefyllfa trwy berswadio Pearson ystyried yr opsiwn Gymraeg yn 2016, ond roedd hi’n rhy hwyr erbyn hynny. Pam y dylai Pearson wneud hyn, pan nad oedd AQA neu OCR wedi gorfod gwneud? Roedd hi digon hawdd iddyn nhw nodi anhawsterau (esgusodion) fel diffyg arholwyr Cymraeg a.y.y.b., ond does dim sail i rhain mewn gwirioedd. Dim ond tri arbennigwr Seicoleg sy’n Gymry Cymraeg sydd gan CBAC ei hun yn rhan o’r holl broses o greu ac asesu’r papurau, gyda Phrif Arholwr a swyddog di-Gymraeg. Roedd tri arbennigwr Cymraeg ar gael i Pearson. Y gwir plaen yw ei bod hi’n rhy hwyr i arbed y sefyllfa wedi’r penderfyniad gwan, gwrth-Gymreig a wnaed gan sefydliad Cymwysterau Cymru yn 2015.

 

Mae o’n ceisio bychanu pwysigrwydd y pwnc trwy ddweud nad oes angen ei astudio i ddilyn y cwrs Safon Uwch.  Mae hynny’n wir, ond mae myfyrwyr yn llwyddo llawer gwell yn Safon Uwch os ydyn nhw wedi cael y cyfle i osod sylfaen o wybodaeth yn y pwnc trwy gwrs TGAU yn gynfaf. Nid yw’r pwnc ar gael yn y rhan fwyaf o ysgolion oherwydd diffyg athrawon gyda chymhwyster yn y pwnc, gan nad ydy o wedi cael ei ddysgu mewn ysgolion uwchradd yn draddodiadol. Gyda’r pwyslais newydd ar ‘Iechyd a Lles’ yn y Cwricwlwm newydd, credaf bod Seicoleg yn bwnc dylai gael ei hyrwyddo, nid a leihau mewn argaeledd.

 

Rwyf yn siomedig gydag ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gan ei bod hi unwaith eto yn cymryd y safbwynt mai ‘mater i Gymrwysterau Cymru yw hyn’. Onid ydy penderfyniadau fel hyn, sydd wedi cael effaith negyddol ar addysg Gymraeg yn gyfifoldeb arni hi yn y pendraw?

 

Rwyf yn siwr bod gwersi wedi ei dysgu, ac rwyf yn mawr obeithio na fydd yn digwydd eto. Mewn cyflweliad ar rhaglen Taro’r Post ar Radio Cymru, dywedodd y cyn-Gyfarwyddwr Arholiadau ac Asesiadau CBAC, Derek Stockley, na fyddai hyn wedi digwydd cyn 2015, pan yr oedd CBAC yn gyfrifol am faterion fel hyn, felly maen amlwg i mi ein bod ni wedi cymryd cam yn ôl o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ers sefydlu Cymwysterau Cymru.

 

Yr eiddoch yn gywir

 

Chris Evans

Pennaeth Seicoleg

Ysgol Morgan Llwyd

Wrecsam